"Anhygoel o dda ... organydd yn nosbarth gyntaf y byd"
Romsdals Budstikke
Dros y blynyddoedd ers i'r Dr Tim Rishton roi ei ymddangosiad cyntaf yn Llundain, a hynny yn llwyddiannus iawn, y mae wedi mwynhau gyrfa brysur ryngwladol yn organydd cyngerdd, darllenydd, awdur a darlithydd, yn ogystal â bod yn Athro prifysgol yn Norwy.
Astudiodd Dr Tim Rishton gyda Susi Jeans ac ym mhrifysgolion Reading (lle yr enillodd bob gwobr bosibl am ganu'r organ), Manceinion a Chymru, lle y cymerodd gradd doethur mewn cerddoriaeth y 18fed ganrif a gweithiodd wedyn ar y staff.
Er bod Tim yn arbenigo ar repertoire Baroc Almaenaidd, y mae ei gyngherddau wedi amrywio o Goncerto Organ Poulenc i'r concerti cynnar Prydeinig, o holl weithiau Bach i'r organ yn Sgandinafia i ddatganiad Schmidt yng Ngholeg Brenhinol yr Organyddion, a cherddoriaeth gyfoes i'r organ yn yr Arctig. Y mae yn rhoi cyngherddau eleni yn yr Eidal, Norwy, yr Almaen, Sbaen, Sweden, yr Alban (Prifysgolion ac eglwysi cadeiriol Edinburgh ac Aberdeen) a Ffrainc; y flwyddyn nesaf ym Mrasil, yr Unol Daleithiau ac Australia.
Y mae wedi rhoi darlithoedd a dosbarthiadau meistr (darlledwyd sawl ohonynt) yn y Gymraeg, yn Norwyeg ac yn Saesneg mewn nifer o brifysgolion. Y mae Tim wedi darlledu yn fynych ar radio a theledu mewn nifer o wledydd, e.e. y Gorfforaeth Norwyig NRK, BBC, HTV ac S4C - yn ddiweddaraf gwasanaeth nadolig teledu ar BBC1.
Y mae wedi gwneud nifer o recordiadau unawdol, yn ogystal â recordio gydag Aled Jones, Simon Roberts ac eraill. Y mae'n gweithio ar hyn o bryd ar CD o gerddoriaeth Eidaleg y 18fed ganrif, CD o Art of FugueJ.S. Bach, a CD o gerddoriaeth Norwyig gyfoes i'r organ, gan gynnwys dau ddarn sylweddol sydd wedi eu hysgrifennu'n arbennig ar gyfer y recordiad.
Yn ogystal â chyfansoddiadau organ sydd wedi eu cyhoeddi yn Norwy, Sweden a'r Almaen, y mae Tim wedi ysgrifennu nifer o lyfrau (un ohonynt, ar ganu'r organ mewn eglwys a chapel, sydd wedi ei chyfieithu i sawl iaeth), ac erthyglau mewn tanysgrifiadau cerddoriaeth ac yn Grove's Dictionary (Saesneg), Routledge Organ Encyclopaedia (Unol Daleithiau) a MGG (Yr Almaen). Ysgrifenna ar hyn o bryd lyfr Sŵn y delyn aur: llawlyfr cerddoriaeth mewn eglwys a chapel.
Mae Tim yn aelod yng Ngorsedd y Beirdd a Llys yr Eisteddfod.
O'r wasg yn Sgandinafia:
"Yn ystod y darn cyntaf, gan John Parry [Cymro o'r 18fed ganrif], mi fedrai dyn gau ei llygaid a breudwyddio am y 18fed ganrif. Dawnsiodd Passacaglia J.S. Bach i c-moll gyda chryfder a nerth yn y gerddoriaeth"
Finnmark Dagblad
"cerddoriaeth organ yn y dosbarth gyntaf"
Sør-Varanger Avis
"Gobeithiwn i'r organydd hwn ddod yn ôl i Harstad rywbryd: yr ydymn yn awyddus iawn i'w glywed yn rhagor"
Harstad Tidende
"organydd bendigedig"
Gudbrandsdalen og Lillehammer Tilskuer
"Canu da gynddeiriog ar yr organ ... yn ei fwynhau'n arw"
Sogn Dagblad